Lleoliad:
Lleoliad Allanol
Dyddiad: Dydd Iau, 8 Rhagfyr 2022
Amser: 09.00 – 16.13
Categori |
Enwau |
Aelodau'r Bwrdd: |
Dr Elizabeth Haywood (Cadeirydd); David Hanson; Michael Redhouse; Jane Roberts; Hugh Widdis. |
Ysgrifenyddiaeth |
Huw Gapper, Clerc; Martha Da Gama Howells, Ail Glerc; Ruth Hatton, Dirprwy Glerc; Anna Daniel, Uwch-gynghorydd i’r Bwrdd; David Lakin, Cefnogaeth i'r Bwrdd; Craig Griffiths, Cynghorydd Cyfreithiol i’r Bwrdd; Bethan Davies, Pennaeth Cefnogaeth ac Ymgysylltu â’r Aelodau; Martin Jennings, Arweinydd Tîm Ymchwil, Uned Craffu Ariannol; Kate Rabaiotti, Gwasanaethau Cyfreithiol. |
Cyfranogwyr: |
Donna Davies, Pennaeth Pensiynau; Huw Bowen, Cymorth Busnes i Aelodau. |
Yn arsylwi: |
Lowri Weatherburn, Cymorth Busnes i Aelodau.
|
1 Cyflwyniad y Cadeirydd (09:00 - 09:15)
- Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
- Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad byr i'r Bwrdd ar ei chyfarfodydd diweddar gyda Richard Lloyd, Cadeirydd yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol.
- Trafododd y Bwrdd dri Hawliad Eithriadol ar gyfer Treuliau, a gyflwynwyd gan Aelodau. Penderfynwyd ar ddau yn y cyfarfod gyda gwybodaeth bellach i'w cheisio gan yr Aelod mewn perthynas â'r trydydd hawliad.
- Soniodd y Bwrdd am eu cyfarfodydd y diwrnod blaenorol gyda grwpiau cynrychioliadol ar ran Aelodau a Staff Cymorth, a chyfarfodydd gydag Aelodau unigol amrywiol. Nododd y Bwrdd fod cyfarfodydd o'r fath wedi bod yn ddefnyddiol iawn i lywio trafodaethau'r Bwrdd.
- Nododd y Bwrdd fod Aelod wedi gofyn am gael cyfarfod â'r Bwrdd yn ystod y sesiwn galw heibio a gynhaliwyd y diwrnod blaenorol, ond bod yr Aelodau wedi'u galw i siarad yn y Cyfarfod Llawn ar y funud olaf. Cytunodd y Bwrdd i drefnu cyfarfod rhithwir gyda'r Aelod ar adeg sy'n gyfleus i bawb.
- Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod 13 Hydref.
2 Eitem i'w thrafod: Diwygio'r Senedd (09:15 - 09:45)
- Ystyriodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio’r Senedd a nododd y tybiaethau cyffredin y bwriedir iddynt lywio’r gwaith o baratoi amcangyfrifon o gostau ar gyfer bil ar ddiwygio’r Senedd.
- Nododd y Bwrdd fod mwyafrif y cyfweliadau a gynhaliwyd gydag Aelodau fel rhan o'r ymarfer ymgysylltu ar Ffyrdd o Weithio wedi'u cynnal. Cytunodd y Bwrdd i gael cyflwyniad ar ganfyddiadau'r ymarfer hwn yn ei gyfarfod ym mis Chwefror.
- Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at y Llywydd, fel Cadeirydd y Comisiwn, i sefydlu mecanwaith ar gyfer deialog ffurfiol rhwng y Bwrdd a’r Comisiwn ar Ddiwygio’r Senedd.
- At hynny, cytunodd y Bwrdd i gomisiynu ymchwil i oblygiadau etholaethau aml-aelod o ran y modd y mae Aelodau etholedig yn cyflawni eu rôl.
- Cytunodd y Bwrdd i wahodd IPSA i gyfarfod yn y dyfodol i siarad am eu rhaglen waith strategol.
3 Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Costau byw/Ynni (09:45 - 10:30)
- Bu’r Bwrdd yn ystyried goblygiadau cynnydd mewn costau byw – gan gynnwys costau ynni – i Aelodau a'u staff.
- Penderfynodd y Bwrdd roi taliad untro, cyfradd unffurf o £600 i bob aelod o staff cymorth ym mis Ionawr 2023 (heb ei gydgrynhoi), pro rata i adlewyrchu oriau gwaith contract, i helpu i dalu costau byw uwch.
- Penderfynodd y Bwrdd gynyddu terfyn Cronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr pob Aelod gan £1,000 (heb ei gydgrynoi) er mwyn helpu i dalu'r gost gynyddol o redeg swyddfa ac ymgysylltu ag etholwyr yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.
- Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori â'r Swyddog Cyfrifyddu ar y mesurau cymorth ariannol ychwanegol hyn, er mwyn helpu i nodi unrhyw ganlyniadau anfwriadol.
4 Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad (10:45 - 12:00)
- Bu'r Bwrdd yn ystyried newidiadau posibl i'r Penderfyniad ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf (2023-24) at ddibenion ymgynghori.
- Cytunodd y Bwrdd ar ei ddull o ymgynghori a fydd yn cael ei gyhoeddi ar 9 Ionawr ac a fydd yn rhedeg tan 9 Chwefror.
- Cytunodd y Bwrdd i gynnal cyfarfod rhithwir ychwanegol yn fuan ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori i ystyried yr ymatebion a ddaeth i law – ac unrhyw newidiadau sydd eu hangen i’w gynigion yn sgil ymatebion o’r fath – cyn cyfarfod ym mis Mawrth i gytuno ar newidiadau terfynol i’r Penderfyniad ar gyfer 2023-24.
5 Eitem i'w thrafod: Yswiriant cyflogwyr (12:30 - 13:00)
- Nododd y Bwrdd bapur ar newidiadau i gostau'r polisi yswiriant hwn a chytunwyd i ddychwelyd at y mater hwn maes o law, gyda chyngor pellach i'w ddarparu gan y Comisiwn.
6 Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Cynllun Pensiwn Staff Cymorth: Pensiwn Personol Grwp (13:00 - 13:15)
- Cytunodd y Bwrdd i fwrw ymlaen â’r broses o newid y Cynllun Pensiwn Staff Cymorth i Gynllun Pensiwn Personol Grŵp fel yr argymhellwyd gan grŵp llywodraethu’r Cynllun Pensiwn Staff Cymorth. Nododd y Bwrdd y byddai'r Pennaeth Pensiynau yn cyfarfod â Phenaethiaid Staff ac yn egluro pam fod y newid yn digwydd. At hynny, nododd y Bwrdd y byddai'r Tîm Pensiynau yn cyfleu'r newid i'r holl Staff Cymorth ac yn trefnu cyfarfodydd un i un ar gyfer Staff sydd â chwestiynau.
- Nododd y Bwrdd ddiweddariad ar brisiad cap ar gostau cynllun pensiwn yr Aelodau.
7 Eitem i'w thrafod: Y wybodaeth ddiweddaraf a'r flaenraglen waith (13:15 - 13:30)
- Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am recriwtio i swyddi newydd o fewn Tîm Clercio'r Bwrdd.
- Nododd y Bwrdd fod Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid y Comisiwn wedi symud i borfeydd brasach. Roedd y Bwrdd yn dymuno cofnodi eu diolch a'u dymuniadau gorau i Nia yn ei rôl newydd.
- Cytunodd y Bwrdd ar ei flaenraglen waith ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol hon, a chytuno iddi. Cytunodd y Bwrdd i gynnal ei gyfarfod nesaf (mis Chwefror) mewn person. Cytunodd y Bwrdd i adolygu dyddiadau ei gyfarfodydd yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal mewn da bryd cyn bod angen gwneud penderfyniadau neu lansio ymgynghoriadau.